Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, sy’n creu polisïau a chyfreithiau ar gyfer ein gwlad.

Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio.

Mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • addysg
  • iechyd
  • llywodraeth leol
  • trafnidiaeth
  • cynllunio
  • datblygu economaidd
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • diwylliant
  • y Gymraeg
  • yr amgylchedd
  • amaethyddiaeth a materion gwledig

Rydym yn:

  • gwneud penderfyniadau ar y meysydd hyn, ar gyfer Cymru gyfan
  • datblygu polisïau a'u rhoi ar waith
  • cynnig cyfreithiau Cymru (Biliau'r Senedd)