Neidio i'r prif gynnwy

Y weinyddiaeth anwleidyddol sy'n cefnogi gweinidogion Llywodraeth Cymru, waeth pa plaid sydd mewn grym.

Mae cryfderau craidd y gwasanaeth sifil – amhleidioldeb; gweinyddu effeithlon; llywodraethu da a rheolaeth gadarn ar arian cyhoeddus – yn cynnig sylfaen pendant sydd wedi'n galluogi i adeiladu'r sefydliad cadarn sydd bellach yn cefnogi Llywodraeth Cymru.

Mae gennym weithlu medrus a phrofiadol o 5000+ o bobl ledled Cymru, yn agos at y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Cefnogi gweinidogion i gyflawni dros Gymru

Ein prif her dros y blynyddoedd nesaf fydd cefnogi gweinidogion Cymru mor effeithiol â phosibl drwy gam nesaf y daith ddatganoli,  gan ganolbwyntio’n ddiflino ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu.