Neidio i'r prif gynnwy

Manylion cyswllt y gweinidogion. Esbonio sut mae eich gohebiaeth yn cael ei thrin.

Gallwch gysylltu â gweinidogion Llywodraeth Cymru naill ai drwy e-bost neu drwy’r post (nid oes angen defnyddio’r ddwy ffordd). Bydd llythyrau a anfonir drwy’r post yn cael eu hateb, ond byddant yn cymryd mwy o amser i'n cyrraedd, yn enwedig ar hyn o bryd. Felly, efallai yr hoffech ddefnyddio e-bost yn unig. Os byddwch wedi nodi cyfeiriad e-bost, sylwer mai drwy e-bost yn unig y byddwn yn ateb, hyd yn oed os oeddech wedi anfon yr ohebiaeth ar bapur. 

Ein nod yw ymateb o fewn 17 diwrnod gwaith, ond oherwydd bod mwy o ohebiaeth yn dod i law ar hyn o bryd, mae’n bosibl y byddwn yn cymryd mwy o amser. Mae canllawiau helaeth ar y coronafeirws ar gael yma. Edrychwch ar y tudalennau hyn cyn anfon e-bost, gan y gallai’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani fod ar gael yn barod. 

Cofiwch mai un ymateb a gewch chi gan Lywodraeth Cymru. Felly, anfonwch eich e-bost at un Gweinidog yn unig fel y gallwn ymateb i'ch ymholiad cyfan cyn gynted â phosibl. Ni fyddwch yn cael ymateb cyflymach, nac ymatebion ychwanegol, drwy e-bostio nifer o Weinidogion.

Mae tudalennau’r gweinidogion yn rhestru’r materion y maent yn gyfrifol amdanynt – mae canllawiau at y tudalennau hyn ar gael o dan bennawd pob Gweinidog isod. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am faterion sydd heb eu datganoli – mae manylion cyswllt yr adrannau perthnasol ar gael yma.

E-bost

Prif Weinidog Cymru
Vaughan Gething: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rebecca Evans: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Lesley Griffiths: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Huw Irranca-Davies: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Julie James: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Eluned Morgan: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Jeremy Miles: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Lynne Neagle: Cyswllt

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
Ken Skates: Cyswllt

Y Trefnydd a’r Prif Chwip
Jane Hutt: Cyswllt

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol
Mick Antoniw: Cyswllt

Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Hannah Blythyn: Cyswllt

Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol
Dawn Bowden: Cyswllt

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar
Jayne Bryant: Cyswllt

Neu drwy’r post

Ysgrifennydd y Cabinet / Y Gweinidog...

Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â gweinidog?

Y Gymraeg

Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd gohebiaeth Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg.

Ni fydd defnyddio’r Gymraeg yn achosi oedi cyn ichi gael ymateb.

Pwy fydd yn ymateb?

Nid oes modd i’r gweinidogion eu hunain ymateb bob tro. Mae’n bosibl y cewch ymateb gan was sifil ar eu rhan.

Os byddwch chi'n anfon copi o'r ohebiaeth at fwy nag un gweinidog, dim ond un ateb y byddwch yn ei gael fel arfer, a hynny gan y gweinidog mwyaf priodol. Mae’n bosibl mai swyddog fydd yn ymateb ar ran y gweinidog.

Os mai wedi copïo gweinidog i’r ohebiaeth y byddwch, ni chewch ateb fel arfer.

Ymgyrchoedd

Bydd trefnwyr ymgyrchoedd yn cael ymateb gan y gweinidog priodol fel arfer. Ni fydd llythyrau a chardiau post sy’n ymwneud ag ymgyrch yn cael ymateb fel arfer, ond byddant yn cael eu cadw a’u ffeilio.

Cysylltu â’r Aelod o’r Senedd ar gyfereich etholaeth

Os hoffech gysylltu â gweinidog yn ei rôl fel Aelod o’r Senedd ar gyfer eich etholaeth, cewch ei fanylion cyswllt ar wefan Senedd Cymru.

Gohebiaeth oddi wrth gynrychiolwyr etholedig

Anfon cais am gyfarfod neu wahoddiad i weinidog